Eich cyf/Your ref:
Ty Cambria / Cambria House 29 Heol Casnewydd / 29 Newport Road Caerdydd / Cardiff CF24 0TP / CF24 0TP
Ebost/Email: Emyr.roberts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Emyr.roberts@naturalresourceswales.gov.uk
Ffôn/Phone: 0300 065 4444
|
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd, Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA
14 Mai 2015
Annwyl Alun,
Bil yr Amgylchedd a Rheoli Adnoddau Naturiol
Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil yr Amgylchedd. Mae hyn yn garreg filltir bwysig i ni yn CNC. Mae'r Bil newydd yn rhoi fframwaith deddfwriaethol i ni ddarparu Rheoli Adnoddau Naturiol (RhAN) ac yn rhoi rolau newydd penodol i ni i gynhyrchu Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd, a chynhyrchu Datganiadau Ardal i amlinellu materion a'r cyfleoedd ar gyfer defnydd a gwella adnoddau naturiol ar lefel leol.
Rydym wedi bod yn datblygu ein dealltwriaeth o'r hyn y gallai RhAN ei olygu yn ymarferol, gyda'n tri threial yn nalgylchoedd y Rhondda, Dyfi a Tawe. Mae'r rhain yn rhoi’r cyfle i ni brofi sut y gall RhAN a'r darpariaethau yn y Bil Amgylchedd weithio mewn ffordd ymarferol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i edrych yn fanwl ar y materion, y cyfleoedd a'r manteision a allai fodoli o adnoddau naturiol - a sut y gellir eu gwella er budd pobl a'r amgylchedd.
Byddwn yn croesawu'r cyfle i rannu’r hyn rydym wedi dysgu drwy wahodd y Pwyllgor i ymweld â'r ardaloedd, wrth i chi baratoi ar gyfer y gwaith craffu ar y Bil. Ymwelodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol y treial Tawe yn ddiweddar ac rwy'n sicr y bydd gweld y gwaith hwn yn helpu'r Pwyllgor i ddeall y gwahaniaeth ymarferol y gall RhAN wneud er lles yr amgylchedd, pobl ac economi Cymru.
Cysylltwch â mi os hoffech drafod yn fwy manwl. Yn y cyfamser, mae Rhys Griffith yn hapus i weithio gyda'ch tîm clercio i fynd ati i drefnu'r ymweliad.
Yr eiddoch yn gywir,
Emyr Roberts
Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru
Chief Executive, Natural Resources Wales